Croeso cynnes i chi a diolch am droi i'n gwefan. Defnyddiwch y cyswllt ar y brig i weld tudalennau gwahanol. Dyma ein 'Hafan'. Os mai ail-ymweld yr ydych â'n safle, efallai y dymunwch glicio ar y panel ar y dde i weld beth sydd wedi ei ychwanegu neu ei newid.
Cymdeithas fechan o bobol ydyn ni sy'n mwynhau cadw gwenyn ( a mêl, wrth gwrs). Rydym yn gweithredu i helpu ein gilydd ac yn cwrdd yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn (gweler 'Gwybodaeth' ar y dudalen 'Digwyddiadau').
Rydym yn awyddus i ddenu aelodau newydd yn enwedig dechreuwyr. Os ydych yn ystyried ymuno, cliciwch ar 'Cysylltwch â Ni' i gael gwybod mwy.
Nid Meirionnydd yw'r lle hawsaf i gadw gwenyn. Gall fod yn wlyb a gwyntog, sy'n amharu ar allu'r gwenyn i gasglu mêl a phaill, ond ar y llaw arall mae agosrwydd y grug ar y bryniau a'r mynyddoedd yn gallu sicrhau'r mêl gorau un ar ddiwedd haf. Mae'r Gymdeithas yn annog cadw gwenyn lleol, sy'n dueddol o fod yn dywyllach na gwenyn ardaloedd cynhesach o'r Deyrnas Unedig. Mantais cadw'r gwenyn hyn yw eu bod yn wytnach (ac o bosib yn gryfach i wrthsefyll clefydau) na'u cefndryd, ac yn fwy cysurus yn ein hinsawdd ni.
Defnyddiwn y rhan fwyaf o'r mathau poblogaidd o gychod gwenyn: National, WBC, Langsthrop a Smith - y National sydd fwyaf poblogaidd. Mae eu rhinweddau yn arwain at ddadlau brwd - yn ôl yr arfer cyffredin ymysg gwenynwyr!
Ar 'Ymweliadau Cartre' yn ystod y misoedd cynhesaf byddwn yn cwrdd i edrych ar wenyn a chychod aelodau yn eu cynefin eu hunain, ac yn trafod y cyfleoedd a'r sialensiau sy'n wynebu gwenynwr. Fel hyn caiff dechreuwyr gyfle i ennill profiad ymarferol o drafod gwenyn. Yn 2013 fe wnaethom sefydlu gwenynfa fechan ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog, gyda'r nod o roi hyfforddiant i'n haelodau a hybu cadw gwenyn i'r gymuned ehangach.
SYLWCH: Oherwydd coronafirws ni fydd unrhyw ddigwyddiadau nes bydd rhybudd pellach
Os ydych am gael sgwrs am gadw gwenyn neu gofrestru â'n Cwrs Dechreuwyr ar gyfer 2020, gweler ein tudalen Cysylltwch â Ni
Gweler ein tudalen Adnoddau
Os oes gennych haid o wenyn fe allem o bosib eich helpu. Gweler tudalen Cysylltwch â Ni
Cliciwch yma ac yma i gael gwybodaeth ac i riportio unrhyw weldsian hornet
Cyswllt i Safwe: Hive Monitor